Devo | |
---|---|
Devo yng Ngŵyl Forecastle, yn 2010 Chwith i'r dde: Gerald Casale (bas), Mark Mothersbaugh (llais), Bob Casale (allweddellau), a Bob Mothersbaugh (gitâr) | |
Y Cefndir | |
Tarddiad | Kent ac Akron, Ohio, U.D.A. |
Math o Gerddoriaeth | |
Cyfnod perfformio |
|
Label |
|
Perff'au eraill | |
Gwefan | clubdevo.com |
Aelodau | |
Cyn-aelodau | |
|
Mae Devo yn grŵp 'new wave' arloesol Americanaidd a ffurfiwyd ym 1972 gan aelodau o drefi Kent ac Akron, Ohio.
Cafodd Devo beth lwyddiant gyda'r caneuon Jocko Homo (1978) a Whip it (1980) a'u fersiwn o I Can't get No Satisfaction (1977). Er byth yn llwyddiant masnachol mawr, mae Devo wedi magu dilyniant sylweddol o ffans ac wedi chwarae dros y byd am dros 40 mlynedd.
Mae steil Devo yn cynnwys elfennau kitsch, Americana, ffuglen-wyddonol, eironi, parodi, hiwmor a sylwebaeth cymdeithasol.
Mae'r enw 'Devo' yn dod o'r syniad o 'De-evolution' hynny yw bod dynoliaeth yn estblygu yn y cyfeiriad anghywir, yn ôl yn hytrach nag ymlaen.[7]
Mae anthem Devo, Jocko Homo, yn barodi ar ddadl Jocko-Homo Heavenbound (1924) gan B. H. Shadduck[8] sydd yn gwrthod syniadaeth Charles Darwin. Mae'r gân yn cynnwys y geiriau "I can do what a monkey can do / God made man / But a monkey supplied the glue"[9] Mae nifer fawr o Americanwyr yn ddal i wrthod theori Esblygiad, cymaint â 46% yn 2012 yn ôl arolwg barn Gallup.[10]